Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2023!

01/09/2023

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2023 - Dydd Mercher 20fed Medi

Bydd Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2023 yn cael ei gynnal ddydd Mercher 20fed Medi ac yn cyfle i dynnu sylw at y rôl y mae gweithgaredd corfforol yn ei chwarae ar draws y Deyrnas Unedig, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd wrth ein helpu ni i gyd i fyw bywydau iachach.

Eleni mae'r ffocws wedi newid. Er bod dod â phobl at ei gilydd trwy weithgarwch corfforol ar Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn cael effaith hynod gadarnhaol, mae’n ymwneud ag annog pawb i weld y diwrnod hwn fel un cam yn unig mewn taith lawer mwy.

Oherwydd wedi'r cyfan, mae eich iechyd am oes.

I wneud Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn ddiwrnod mwyaf egnïol y flwyddyn mae angen eich help arnom! Byddwn yn cynnal cyfres o ddosbarthiadau ffitrwydd AM DDIM yn ein canolfannau hamdden. Maent yn cynnwys;

Born to Move, Ymarfer Corff i Gerddoriaeth, Body Pump, Body Balance, Cryfder a Chyflyru, Dawns Aur, Cylchedau, Ioga, HIIT, Coach by Colour a Sbin

Byddwn hefyd yn sefydlu 'Coeden Addewidion' ym mhob canolfan, lle bydd cwsmeriaid yn gallu ysgrifennu beth mae iechyd yn ei olygu iddyn nhw.

Methu cyrraedd Canolfan Hamdden? Dim problem! Ar ôl llwyddiannau blynyddoedd blaenorol, bydd platfform digidol Actif Unrhyw Le hefyd yn darparu dosbarthiadau byw am ddim ar y diwrnod.

Felly, beth am ddod â ffrind a chymryd rhan yn un o'r dosbarthiadau rhad ac am ddim hyn ddydd Mercher 20fed Medi.

Mae archebion yn fyw ar gyfer y dosbarthiadau yma, CLICIWCH YMA i gadarnhau lle ar Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol.

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2023

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2023

Dosbarthiadau AM DDIM yn ein canolfannau hamdden a digidol

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Dosbarthiadau am ddim yng Nghaerfyrddin ar 20fed Medi:

09:00 - 09:45 - Les Mills Born to Move (Ystafell Aml-bwrpas)

12:00 - 12:45 - Ymarfer i Gerddoriaeth (Stiwdio)

18:00 - 18:45 - Les Mills Body Pump (Neuadd Chwaraeon)

Canolfan Hamdden Llanelli

Dosbarthiadau am ddim yn Llanelli ar 20fed Medi:

09:15 - 10:00 - Cryfer a Chyflyru (Neuadd Chwaraeon)

11:30 - 12:15 - Dawns Aur (Stiwdio Ddawns)

16:30 - 17:15 (4-7 oed) & 17:30 - 18:15 (8-12 oed) - Les Mills Born to Move (Ystafell Acwa)

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Dosbarthiadau am ddim yn Nyffryn Aman ar 20fed Medi:

14:45 - 15:15 - Les Mills Born to Move

12:30 - 13:00 - HIIT

18:00 - 18:45 - Cylchedau

Canolfan Hamdden Llanymddyfri

Dosbarthiadau am ddim yn Llanymddyfri ar 20fed Medi:

12:00 - 12:45 - Les Mills Body Balance Ar-alw

13:00 - 13:45 - Les Mills Body Pump Ar-alw

17:00 - 17:45 - Cryfer a Chyflyru

18:00 - 18:45 - Sbin

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn

Dosbarthiadau am ddim yng Nghastell Newydd Emlyn ar 20fed Medi:

14:30 - 15:00 - HIIT (Stiwdio)

15:30 - 16:15 - Coach by Colour/FTP (Stiwdio)

16:30 - 17:15 - Les Mills Born to Move (Stiwdio)

Canolfan Hamdden Sancler

Dosbarthiadau am ddim yn Sancler ar 20fed Medi:

16:30 - 17:15 - Les Mills Born to Move (Stiwdio)

17:30 - 18:15 - Cylchedau (Neuadd Chwaraeon)

18:30 - 19:30 - Ioga (Stiwdio)

Actif Unrhyw Le (Digidol)

Dosbarthiadau am ddim ar Actif Unrhyw Le ar 20fed Medi i aelodau:

10:15 - 10:45 - Tabata (Ar-lein)

11:00 - 12:00 - Ioga Cadair (Ar-lein)

12:30 - 13:00 - Ioga Cadair (Ar-lein)

19:15 - 19:45 - Core & Stretch (Ar-lein)