Bydd digwyddiad Cyfres insport: Beicio Para Actif yn cynnwys cyfleoedd beicio para a sgiliau sylfaenol yn Felodrom Caerfyrddin.
Bydd y cyfle yn addas ar gyfer unigolion 10+ oed os rydych chi eisiau dechrau beicio, newydd ddechrau, neu'n dymuno gwella gyda'r nod o gystadlu.
Dewch â'ch helmed eich hun ac os oes gennych chi offer beicio addasol yr hoffech eu defnyddio yn y sesiwn mae croeso i chi wneud hynny. Bydd amrywiaeth o feiciau wedi'u haddasu ar gael. Bydd Tîm Llwybr Perfformiad ChAC yn cefnogi'r digwyddiad.
Bydd y cyfle yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i unigolion â namau corfforol a gweledol.
Bydd sesiynau Beicio Para Actif parhaus yn cael eu cynnal bob pythefnos 10:00-12:00yp (£3.70 y sesiwn).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â LPudner@Carmarthenshire.gov.uk
Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.