CHWARAEON AWYR AGORED
- Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau trefnus yn yr awyr agored, ond bydd angen i'r trefnwyr gymryd pob cam rhesymo i leihau'r risg o ledaenu'r feirws.
- NID YW plant dan 11 oed a’r rhai sy'n trefnu'r gweithgaredd (fel hyfforddwyr) yn gynwysedig yn y niferoedd yma.
- Rhaid dilyn canllawiau a gyhoeddir gan gyrff rheoli.
GWEITHGARWCH DAN DO
- Bydd hyd at 15 o bobl yn gallu cymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp dan do trefnus, a bydd ymarfer corff dan do unigol yn parhau i gael ei ganiatáu fel cyn y cyfnod atal byr.
Fodd bynnag, mae dau ychwanegiad pwysig i'w nodi:
- NID YW plant dan 11 oed a’r rhai sy'n trefnu'r gweithgaredd (fel hyfforddwyr) yn gynwysedig yn y niferoedd yma. Dim ond cyfyngiadau’r lleoliad (gofod) fydd yn cyfyngu ar nifer y plant dan 11 oed a all gymryd rhan yn gyfreithlon, a’r angen am ddigon o oedolion i fod yn bresennol i oruchwylio. Dylech ddefnyddio cyfarwyddyd UK Active i benderfynu ar y nifer mwyaf a ganiateir yn y lleoliad (gofod) sydd ar gael.
- Bydd yr un grwpiau o 15 o bobl yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau trefnus dan do gan ddefnyddio cyfarwyddyd UK Active i benderfynu ar y nifer mwyaf a ganiateir yn y lleoliad (gofod) sydd ar gael.
CHWARAEON ELITAIDD
Bydd chwaraeon elitaidd a ataliwyd yn ystod y cyfnod atal byr yn gallu ailddechrau. Dylai athletwyr a hyfforddwyr wedi’u dynodi yn y grŵp hwn gysylltu â'u corff rheoli i gael rhagor o arweiniad a chefnogaeth.
Ffynonellau gwybodaeth a chymorth
- Gallwch gael mwy o wybodaeth am y rheolau a’r cyfarwyddyd swyddogol ar ôl y cyfnod atal byr gan Lywodraeth Cymru.
- Dylid dilyn cyfarwyddyd y cyrff rheoli bob amser.
Nod Cronfa Cymru Actif yw diogelu, paratoi a sicrhau cynnydd clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol yng Nghymru drwy bandemig Covid-19 ac i’r dyfodol.